Y Salmau 34:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni,ac y mae'n eu gwaredu.

8. Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD.Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.

9. Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef,oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.

10. Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu,ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.

11. Dewch, blant, gwrandewch arnaf,dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD.

Y Salmau 34