Y Salmau 33:11-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth,a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.

12. Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi,y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun.

13. Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd,ac yn gweld pawb oll;

14. o'r lle y triga y mae'n gwylioholl drigolion y ddaear.

15. Ef sy'n llunio meddwl pob un ohonynt,y mae'n deall popeth a wnânt.

16. Nid gan fyddin gref y gwaredir brenin,ac nid â nerth mawr yr achubir rhyfelwr.

17. Ofer ymddiried mewn march am waredigaeth;er ei holl gryfder ni all roi ymwared.

18. Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y rhai a'i hofna,ar y rhai sy'n disgwyl wrth ei ffyddlondeb,

19. i'w gwaredu rhag marwolaetha'u cadw'n fyw yng nghanol newyn.

20. Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD;ef yw ein cymorth a'n tarian.

21. Y mae ein calon yn llawenychu ynddoam inni ymddiried yn ei enw sanctaidd.

22. O ARGLWYDD, dangos dy ffyddlondeb tuag atom,fel yr ydym wedi gobeithio ynot.

Y Salmau 33