Y Salmau 31:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. y mae fy mywyd yn darfod gan dristwcha'm blynyddoedd gan gwynfan;fe sigir fy nerth gan drallod,ac y mae fy esgyrn yn darfod.

11. I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg,i'm cymdogion yn watwar,ac i'm cyfeillion yn arswyd;y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf.

12. Anghofiwyd fi, fel un marw wedi mynd dros gof;yr wyf fel llestr wedi torri.

13. Oherwydd clywaf lawer yn sibrwd,y mae dychryn ar bob llaw;pan ddônt at ei gilydd yn f'erbyny maent yn cynllwyn i gymryd fy mywyd.

14. Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD,ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw.”

15. Y mae fy amserau yn dy law di;gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr.

16. Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was;achub fi yn dy ffyddlondeb.

17. ARGLWYDD, na fydded cywilydd arnaf pan alwaf arnat;doed cywilydd ar y drygionus,rhodder taw arnynt yn Sheol.

18. Trawer yn fud y gwefusau celwyddog,sy'n siarad yn drahaus yn erbyn y cyfiawnmewn balchder a sarhad.

Y Salmau 31