Y Salmau 29:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Y mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio cedrwydd;dryllia'r ARGLWYDD gedrwydd Lebanon.

6. Gwna i Lebanon lamu fel llo,a Sirion fel ych ifanc.

7. Y mae llais yr ARGLWYDD yn fflachio'n fflamau tân.

8. Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r anialwch grynu;gwna'r ARGLWYDD i anialwch Cades grynu.

9. Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r ewigod lydnu,ac yn prysuro geni'r llwdn;yn ei deml dywed pawb, “Gogoniant.”

10. Y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu uwch y llifeiriant,y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu'n frenin byth.

11. Rhodded yr ARGLWYDD nerth i'w bobl!Bendithied yr ARGLWYDD ei bobl â heddwch!

Y Salmau 29