Y Salmau 25:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel,ond yn dy gariad cofia fi,er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.

8. Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn,am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.

9. Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn,a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.

10. Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirioneddi'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor.

11. Er mwyn dy enw, ARGLWYDD,maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr.

12. Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD,fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;

13. fe gaiff fyw'n ffyniannus,a bydd ei blant yn etifeddu'r tir.

14. Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDDa hefyd ei gyfamod i'w dysgu.

Y Salmau 25