Y Salmau 25:6-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb,oherwydd y maent erioed.

7. Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel,ond yn dy gariad cofia fi,er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.

8. Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn,am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.

9. Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn,a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.

10. Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirioneddi'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor.

11. Er mwyn dy enw, ARGLWYDD,maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr.

12. Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD,fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;

13. fe gaiff fyw'n ffyniannus,a bydd ei blant yn etifeddu'r tir.

14. Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDDa hefyd ei gyfamod i'w dysgu.

15. Y mae fy llygaid yn wastad ar yr ARGLWYDD,oherwydd y mae'n rhyddhau fy nhraed o'r rhwyd.

16. Tro ataf, a bydd drugarog wrthyf,oherwydd unig ac anghenus wyf fi.

17. Esmwythâ gyfyngder fy nghalon,a dwg fi allan o'm hadfyd.

18. Edrych ar fy nhrueni a'm gofid,a maddau fy holl bechodau.

19. Gwêl mor niferus yw fy ngelynionac fel y maent yn fy nghasáu â chas perffaith.

20. Cadw fi a gwared fi,na ddoed cywilydd arnaf,oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu.

21. Bydd cywirdeb ac uniondeb yn fy niogelu,oherwydd gobeithiais ynot ti.

22. O Dduw, gwareda Israelo'i holl gyfyngderau.

Y Salmau 25