5. Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi,oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth;wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy'r dydd.
6. O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb,oherwydd y maent erioed.
7. Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel,ond yn dy gariad cofia fi,er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.
8. Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn,am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.
9. Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn,a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.
10. Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirioneddi'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor.
11. Er mwyn dy enw, ARGLWYDD,maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr.
12. Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD,fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;
13. fe gaiff fyw'n ffyniannus,a bydd ei blant yn etifeddu'r tir.
14. Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDDa hefyd ei gyfamod i'w dysgu.
15. Y mae fy llygaid yn wastad ar yr ARGLWYDD,oherwydd y mae'n rhyddhau fy nhraed o'r rhwyd.