Y Salmau 25:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid;

2. O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried;paid â dwyn cywilydd arnaf,paid â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos.

3. Ni ddaw cywilydd i'r rhai sy'n gobeithio ynot ti,ond fe ddaw i'r rhai sy'n llawn brad heb achos.

4. Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD,hyffordda fi yn dy lwybrau.

5. Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi,oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth;wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy'r dydd.

6. O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb,oherwydd y maent erioed.

7. Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel,ond yn dy gariad cofia fi,er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.

Y Salmau 25