1. Atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid;
2. O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried;paid â dwyn cywilydd arnaf,paid â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos.
3. Ni ddaw cywilydd i'r rhai sy'n gobeithio ynot ti,ond fe ddaw i'r rhai sy'n llawn brad heb achos.
4. Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD,hyffordda fi yn dy lwybrau.