Y Salmau 24:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Dyma'r genhedlaeth sy'n ei geisio,sy'n ceisio wyneb Duw Jacob.Sela

7. Codwch eich pennau, O byrth!Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol!i frenin y gogoniant ddod i mewn.

8. Pwy yw'r brenin gogoniant hwn?Yr ARGLWYDD, cryf a chadarn,yr ARGLWYDD, cadarn mewn rhyfel.

9. Codwch eich pennau, O byrth!Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol!i frenin y gogoniant ddod i mewn.

10. Pwy yw'r brenin gogoniant hwn? ARGLWYDD y Lluoedd,ef yw brenin y gogoniant.Sela

Y Salmau 24