Y Salmau 22:7-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar,yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen:

8. “Rhoes ei achos i'r ARGLWYDD, bydded iddo ef ei achub!Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!”

9. Ond ti a'm tynnodd allan o'r groth,a'm rhoi ar fronnau fy mam;

10. arnat ti y bwriwyd fi ar fy ngenedigaeth,ac o groth fy mam ti yw fy Nuw.

11. Paid â phellhau oddi wrthyf,oherwydd y mae fy argyfwng yn agosac nid oes neb i'm cynorthwyo.

12. Y mae gyr o deirw o'm cwmpas,rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf;

13. y maent yn agor eu safn amdanaffel llew yn rheibio a rhuo.

Y Salmau 22