13. y maent yn agor eu safn amdanaffel llew yn rheibio a rhuo.
14. Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr,a'm holl esgyrn yn ymddatod;y mae fy nghalon fel cwyr,ac yn toddi o'm mewn;
15. y mae fy ngheg yn sych fel cragena'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau;yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth.
16. Y mae cŵn o'm hamgylch,haid o ddihirod yn cau amdanaf;y maent yn trywanu fy nwylo a'm traed.
17. Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn,ac y maent hwythau'n edrych ac yn rhythu arnaf.
18. Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg,ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg.
19. Ond ti, ARGLWYDD, paid â sefyll draw;O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo.
20. Gwared fi rhag y cleddyf,a'm hunig fywyd o afael y cŵn.
21. Achub fi o safn y llew,a'm bywyd tlawd rhag cyrn yr ychen gwyllt.
22. Fe gyhoeddaf dy enw i'm cydnabod,a'th foli yng nghanol y gynulleidfa:
23. “Molwch ef, chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD;rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob;ofnwch ef, holl dylwyth Israel.
24. Oherwydd ni ddirmygodd na diystyrugorthrwm y gorthrymedig;ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho,ond gwrando arno pan lefodd.”
25. Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr,a thalaf fy addunedau yng ngŵydd y rhai sy'n ei ofni.
26. Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon,a'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei foli.Bydded i'w calonnau fyw byth!