Y Salmau 22:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Paid â phellhau oddi wrthyf,oherwydd y mae fy argyfwng yn agosac nid oes neb i'm cynorthwyo.

12. Y mae gyr o deirw o'm cwmpas,rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf;

13. y maent yn agor eu safn amdanaffel llew yn rheibio a rhuo.

14. Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr,a'm holl esgyrn yn ymddatod;y mae fy nghalon fel cwyr,ac yn toddi o'm mewn;

15. y mae fy ngheg yn sych fel cragena'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau;yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth.

Y Salmau 22