Y Salmau 21:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Am fywyd y gofynnodd iti, ac fe'i rhoddaist iddo—hir ddyddiau byth bythoedd.

5. Mawr yw ei ogoniant oherwydd dy waredigaeth;yr wyt yn rhoi iddo ysblander ac anrhydedd,

6. yr wyt yn rhoi bendithion iddo dros bythac yn ei lawenhau â gorfoledd dy bresenoldeb.

7. Y mae'r brenin yn ymddiried yn yr ARGLWYDD,ac oherwydd ffyddlondeb y Goruchaf nis symudir.

Y Salmau 21