Y Salmau 21:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O ARGLWYDD, fe lawenycha'r brenin yn dy nerth;mor fawr yw ei orfoledd yn dy waredigaeth!

2. Rhoddaist iddo ddymuniad ei galon,ac ni wrthodaist iddo ddeisyfiad ei wefusau.Sela

3. Daethost i'w gyfarfod â bendithion daionus,a rhoi coron o aur coeth ar ei ben.

4. Am fywyd y gofynnodd iti, ac fe'i rhoddaist iddo—hir ddyddiau byth bythoedd.

5. Mawr yw ei ogoniant oherwydd dy waredigaeth;yr wyt yn rhoi iddo ysblander ac anrhydedd,

6. yr wyt yn rhoi bendithion iddo dros bythac yn ei lawenhau â gorfoledd dy bresenoldeb.

Y Salmau 21