Y Salmau 20:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Bydded i'r ARGLWYDD dy ateb yn nydd cyfyngder,ac i enw Duw Jacob dy amddiffyn.

2. Bydded iddo anfon cymorth i ti o'r cysegr,a'th gynnal o Seion.

3. Bydded iddo gofio dy holl offrymau,ac edrych yn ffafriol ar dy boethoffrymau.Sela

4. Bydded iddo roi i ti dy ddymuniad,a chyflawni dy holl gynlluniau.

5. Bydded inni orfoleddu yn dy waredigaeth,a chodi banerau yn enw ein Duw.Bydded i'r ARGLWYDD roi iti'r cyfan a ddeisyfi.

6. Yn awr fe wnfod yr ARGLWYDD yn gwaredu ei eneiniog;y mae'n ei ateb o'i nefoedd sanctaiddtrwy waredu'n nerthol â'i ddeheulaw.

7. Ymffrostia rhai mewn cerbydau ac eraill mewn meirch,ond fe ymffrostiwn ni yn enw'r ARGLWYDD ein Duw.

Y Salmau 20