Y Salmau 2:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. “Yr wyf fi wedi gosod fy mreninar Seion, fy mynydd sanctaidd.”

7. Adroddaf am ddatganiad yr ARGLWYDD.Dywedodd wrthyf, “Fy mab wyt ti,myfi a'th genhedlodd di heddiw;

8. gofyn, a rhoddaf iti'r cenhedloedd yn etifeddiaeth,ac eithafoedd daear yn eiddo iti;

9. fe'u drylli â gwialen haearna'u malurio fel llestr pridd.”

10. Yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth;farnwyr y ddaear, cymerwch gyngor;

11. gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn,mewn cryndod cusanwch ei draed,

12. rhag iddo ffromi ac i chwi gael eich difetha;oherwydd fe gyneua ei lid mewn dim.Gwyn eu byd y rhai sy'n llochesu ynddo.

Y Salmau 2