6. O eithaf y nefoedd y mae'n codi,a'i gylch hyd yr eithaf arall;ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.
7. Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith,yn adfywio'r enaid;y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr,yn gwneud y syml yn ddoeth;
8. y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir,yn llawenhau'r galon;y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur,yn goleuo'r llygaid;
9. y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân,yn para am byth;y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir,yn gyfiawn bob un.
10. Mwy dymunol ydynt nag aur,na llawer o aur coeth,a melysach na mêl,ac na diferion diliau mêl.