Y Salmau 18:27-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig,ac yn darostwng y beilchion.

28. Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD;fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.

29. Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu;trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.

30. Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.

Y Salmau 18