Y Salmau 18:17-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.

18. Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.

19. Dygodd fi allan i le agored,a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.

20. Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.

21. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;

22. yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.

23. Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,a chedwais fy hun rhag troseddu.

Y Salmau 18