Y Salmau 148:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Molwch yr ARGLWYDD.Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd,molwch ef yn yr uchelderau.

2. Molwch ef, ei holl angylion;molwch ef, ei holl luoedd.

3. Molwch ef, haul a lleuad;molwch ef, yr holl sêr disglair.

4. Molwch ef, nef y nefoedd,a'r dyfroedd sydd uwch y nefoedd.

5. Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD,oherwydd ef a orchmynnodd, a chrewyd hwy;

Y Salmau 148