Y Salmau 147:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch,canwch fawl i'n Duw â'r delyn.

8. Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd â chymylau,ac yn darparu glaw i'r ddaear;y mae'n gwisgo'r mynyddoedd â glaswellt,a phlanhigion at wasanaeth pobl.

9. Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid,a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran.

10. Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march,nac yn cael pleser yng nghyhyrau gŵr;

Y Salmau 147