Y Salmau 147:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Molwch yr ARGLWYDD.Da yw canu mawl i'n Duw ni,oherwydd hyfryd a gweddus yw mawl.

2. Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem,y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel.

3. Y mae'n iacháu'r rhai drylliedig o galon,ac yn rhwymo eu doluriau.

4. Y mae'n pennu nifer y sêr,ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.

5. Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth;y mae ei ddoethineb yn ddifesur.

Y Salmau 147