Y Salmau 145:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Bob dydd bendithiaf di,a moliannu dy enw byth bythoedd.

3. Mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl,ac y mae ei fawredd yn anchwiliadwy.

4. Molianna'r naill genhedlaeth dy waith wrth y llall,a mynegi dy weithredoedd nerthol.

5. Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant,a myfyrio ar dy ryfeddodau.

6. Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy,ac adrodd am dy fawredd.

7. Dygant i gof dy ddaioni helaeth,a chanu am dy gyfiawnder.

Y Salmau 145