Y Salmau 145:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. y mae dy law yn agored,ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn ôl d'ewyllys.

17. Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrddac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd.

18. Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno,at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd.

19. Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni;gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy.

20. Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu,ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus.

Y Salmau 145