Y Salmau 141:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O ARGLWYDD, gwaeddaf arnat, brysia ataf;gwrando ar fy llef pan alwaf arnat.

2. Bydded fy ngweddi fel arogldarth o'th flaen,ac estyniad fy nwylo fel offrwm hwyrol.

3. O ARGLWYDD, gosod warchod ar fy ngenau,gwylia dros ddrws fy ngwefusau.

4. Paid â throi fy nghalon at bethau drwg,i fod yn brysur wrth weithredoedd drygionusgyda rhai sy'n wneuthurwyr drygioni;paid â gadael imi fwyta o'u danteithion.

5. Bydded i'r cyfiawn fy nharo mewn cariad a'm ceryddu,ond na fydded i olew'r drygionus eneinio fy mhen,oherwydd y mae fy ngweddi yn wastad yn erbyn eu drygioni.

Y Salmau 141