Y Salmau 14:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,ac mor llygredig â'i gilydd;nid oes un a wna ddaioni,nac oes, dim un.

4. Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygionisy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?

5. Yno y byddant mewn dychryn mawr,am fod Duw yng nghanol y rhai cyfiawn.

6. Er i chwi watwar cyngor yr anghenus,yr ARGLWYDD yw ei noddfa.

7. O na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion!Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl,fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.

Y Salmau 14