Y Salmau 139:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys,ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd.

4. Oherwydd nid oes air ar fy nhafodheb i ti, ARGLWYDD, ei wybod i gyd.

5. Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen,ac wedi gosod dy law drosof.

6. Y mae'r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi;y mae'n rhy uchel i mi ei chyrraedd.

7. I ble yr af oddi wrth dy ysbryd?I ble y ffoaf o'th bresenoldeb?

8. Os dringaf i'r nefoedd, yr wyt yno;os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd.

9. Os cymeraf adenydd y wawra thrigo ym mhellafoedd y môr,

10. yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain,a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.

11. Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio,a'r nos yn cau amdanaf”,

Y Salmau 139