Y Salmau 139:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi;yr wyt wedi deall fy meddwl o bell;

3. yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys,ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd.

4. Oherwydd nid oes air ar fy nhafodheb i ti, ARGLWYDD, ei wybod i gyd.

5. Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen,ac wedi gosod dy law drosof.

6. Y mae'r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi;y mae'n rhy uchel i mi ei chyrraedd.

Y Salmau 139