Y Salmau 139:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.Yr wyt yn fy adnabod mor dda;

15. ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthytpan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.

16. Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr;cafodd fy nyddiau eu ffurfiopan nad oedd yr un ohonynt.

17. Mor ddwfn i mi yw dy feddyliau, O Dduw,ac mor lluosog eu nifer!

Y Salmau 139