Y Salmau 139:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. ARGLWYDD, yr wyt wedi fy chwilio a'm hadnabod.

2. Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi;yr wyt wedi deall fy meddwl o bell;

3. yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys,ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd.

Y Salmau 139