Y Salmau 138:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD,am iddynt glywed geiriau dy enau;

5. bydded iddynt ganu am ffyrdd yr ARGLWYDD,oherwydd mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.

6. Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, fe gymer sylw o'r isel,ac fe ddarostwng y balch o bell.

7. Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, adfywiaist fi;estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion,a gwaredaist fi â'th ddeheulaw.

8. Bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar fy rhan.O ARGLWYDD, y mae dy gariad hyd byth;paid â gadael gwaith dy ddwylo.

Y Salmau 138