Y Salmau 138:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clodforaf di â'm holl galon,canaf fawl i ti yng ngŵydd duwiau.

2. Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd,a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb,oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.

3. Pan elwais arnat, atebaist fi,a chynyddaist fy nerth ynof.

4. Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD,am iddynt glywed geiriau dy enau;

Y Salmau 138