Y Salmau 132:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Bendithiaf hi â digonedd o ymborth,a digonaf ei thlodion â bara.

16. Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iachawdwriaeth,a bydd ei ffyddloniaid yn gorfoleddu.

17. Yno y gwnaf i gorn dyfu i Ddafydd;darperais lamp i'm heneiniog.

18. Gwisgaf ei elynion â chywilydd,ond ar ei ben ef y bydd coron ddisglair.”

Y Salmau 132