Y Salmau 12:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Arbed, O ARGLWYDD; oherwydd nid oes un teyrngar ar ôl,a darfu am y ffyddloniaid o blith pobl.

2. Y mae pob un yn dweud celwydd wrth ei gymydog,y maent yn gwenieithio wrth siarad â'i gilydd.

3. Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith bob gwefus wenieithusa'r tafod sy'n siarad yn ymffrostgar,

4. y rhai sy'n dweud, “Yn ein tafod y mae ein nerth;y mae ein gwefusau o'n tu; pwy sy'n feistr arnom?”

Y Salmau 12