Y Salmau 119:89-93 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

89. Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.

90. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.

91. Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw,oherwydd gweision i ti yw'r cyfan.

92. Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi,byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd;

93. nid anghofiaf dy ofynion hyd byth,oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi.

Y Salmau 119