Y Salmau 119:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Fe gadwaf dy ddeddfau;paid â'm gadael yn llwyr.

9. Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân?Trwy gadw dy air di.

10. Fe'th geisiais di â'm holl galon;paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion.

11. Trysorais dy eiriau yn fy nghalonrhag imi bechu yn dy erbyn.

12. Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD;dysg i mi dy ddeddfau.

13. Bûm yn ailadrodd â'm gwefusauholl farnau dy enau.

14. Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenyddsydd uwchlaw pob cyfoeth.

Y Salmau 119