Y Salmau 119:73-86 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

73. Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd;rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion.

74. Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychantam fy mod yn gobeithio yn dy air.

75. Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn,ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu.

76. Bydded dy gariad yn gysur i mi,yn unol â'th addewid i'th was.

77. Pâr i'th drugaredd ddod ataf, fel y byddaf fyw,oherwydd y mae dy gyfraith yn hyfrydwch i mi.

78. Cywilyddier y trahaus oherwydd i'w celwydd fy niweidio,ond byddaf fi'n myfyrio ar dy ofynion.

79. Bydded i'r rhai sy'n dy ofni droi ataf fi,iddynt gael gwybod dy farnedigaethau.

80. Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau,rhag imi gael fy nghywilyddio.

81. Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth,ac yn gobeithio yn dy air;

82. y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid;dywedaf, “Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?”

83. Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg,eto nid anghofiaf dy ddeddfau.

84. Am ba hyd y disgwyl dy wascyn iti roi barn ar fy erlidwyr?

85. Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith,wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.

86. Y mae dy holl orchmynion yn sicr;pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi.

Y Salmau 119