Y Salmau 119:28-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid,cryfha fi yn ôl dy air.

29. Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf,a rho imi ras dy gyfraith.

30. Dewisais ffordd ffyddlondeb,a gosod dy farnau o'm blaen.

31. Glynais wrth dy farnedigaethau.O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio.

32. Dilynaf ffordd dy orchmynion,oherwydd ehangaist fy neall.

33. O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau,ac o'i chadw fe gaf wobr.

34. Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraitha'i chadw â'm holl galon;

35. gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion,oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.

Y Salmau 119