Y Salmau 119:170-175 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

170. Doed fy neisyfiad atat;gwared fi yn ôl dy addewid.

171. Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliantam iti ddysgu i mi dy ddeddfau.

172. Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid,oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn.

173. Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo,oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion.

174. Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith.

175. Gad imi fyw i'th foliannu di,a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo.

Y Salmau 119