Y Salmau 119:150-158 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

150. Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu,ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith.

151. Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD,ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd.

152. Gwn erioed am dy farnedigaethau,i ti eu sefydlu am byth.

153. Edrych ar fy adfyd a gwared fi,oherwydd nid anghofiais dy gyfraith.

154. Amddiffyn fy achos ac achub fi;adfywia fi yn ôl dy addewid.

155. Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus,oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau.

156. Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD;adfywia fi yn ôl dy farn.

157. Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus,ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau.

158. Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiaisam nad ydynt yn cadw dy air.

Y Salmau 119