Y Salmau 119:146-151 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

146. Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi,ac fe gadwaf dy farnedigaethau.

147. Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth,a gobeithiaf yn dy eiriau.

148. Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos,i fyfyrio ar dy addewid.

149. Gwrando fy llef yn ôl dy gariad;O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi.

150. Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu,ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith.

151. Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD,ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd.

Y Salmau 119