Y Salmau 119:134-141 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

134. Rhyddha fi oddi wrth ormes dynol,er mwyn imi ufuddhau i'th ofynion di.

135. Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was,a dysg i mi dy ddeddfau.

136. Y mae fy llygaid yn ffrydio dagrauam nad yw pobl yn cadw dy gyfraith.

137. Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD,a chywir yw dy farnau.

138. Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawnac yn gwbl ffyddlon.

139. Y mae fy nghynddaredd yn fy ysuam fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau.

140. Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr,ac y mae dy was yn ei charu.

141. Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod,nid wyf yn anghofio dy ofynion.

Y Salmau 119