Y Salmau 119:123-128 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

123. Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth,ac am dy addewid o fuddugoliaeth.

124. Gwna â'th was yn ôl dy gariad,a dysg i mi dy ddeddfau.

125. Dy was wyf fi; rho imi ddealli wybod dy farnedigaethau.

126. Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu,oherwydd torrwyd dy gyfraith.

127. Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynionyn fwy nag aur, nag aur coeth.

128. Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion,a chasâf lwybrau twyll.

Y Salmau 119