Y Salmau 119:104-112 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

104. O'th ofynion di y caf ddeall;dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.

105. Y mae dy air yn llusern i'm troed,ac yn oleuni i'm llwybr.

106. Tyngais lw, a gwneud addunedi gadw dy farnau cyfiawn.

107. Yr wyf mewn gofid mawr;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air.

108. Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD,a dysg i mi dy farnedigaethau.

109. Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo,ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith.

110. Gosododd y drygionus rwyd i mi,ond nid wyf wedi gwyro oddi wrth dy ofynion.

111. Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth imi am byth,oherwydd y maent yn llonder i'm calon.

112. Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau;y mae eu gwobr yn dragwyddol.

Y Salmau 119