Y Salmau 119:102-108 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

102. Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau,oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo.

103. Mor felys yw dy addewid i'm genau,melysach na mêl i'm gwefusau.

104. O'th ofynion di y caf ddeall;dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.

105. Y mae dy air yn llusern i'm troed,ac yn oleuni i'm llwybr.

106. Tyngais lw, a gwneud addunedi gadw dy farnau cyfiawn.

107. Yr wyf mewn gofid mawr;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air.

108. Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD,a dysg i mi dy farnedigaethau.

Y Salmau 119