Y Salmau 118:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Dyma'r dydd y gweithredodd yr ARGLWYDD;gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.

25. Yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, achub ni;yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, rho lwyddiant.

26. Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r ARGLWYDD.Bendithiwn chwi o dŷ'r ARGLWYDD.

27. Yr ARGLWYDD sydd Dduw, rhoes oleuni i mi. changau ymunwch yn yr orymdaithhyd at gyrn yr allor.

28. Ti yw fy Nuw, a rhoddaf ddiolch i ti;fy Nuw, fe'th ddyrchafaf di.

Y Salmau 118