Y Salmau 118:19-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Agorwch byrth cyfiawnder i mi;dof finnau i mewn a diolch i'r ARGLWYDD.

20. Dyma borth yr ARGLWYDD;y cyfiawn a ddaw i mewn drwyddo.

21. Diolchaf i ti am fy ngwrandoa dod yn waredigaeth i mi.

22. Y maen a wrthododd yr adeiladwyra ddaeth yn brif gonglfaen.

23. Gwaith yr ARGLWYDD yw hyn,ac y mae'n rhyfeddod yn ein golwg.

24. Dyma'r dydd y gweithredodd yr ARGLWYDD;gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.

25. Yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, achub ni;yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, rho lwyddiant.

26. Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r ARGLWYDD.Bendithiwn chwi o dŷ'r ARGLWYDD.

Y Salmau 118