Y Salmau 118:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Nid marw ond byw fyddaf,ac adroddaf am weithredoedd yr ARGLWYDD.

18. Disgyblodd yr ARGLWYDD fi'n llym,ond ni roddodd fi yn nwylo marwolaeth.

19. Agorwch byrth cyfiawnder i mi;dof finnau i mewn a diolch i'r ARGLWYDD.

20. Dyma borth yr ARGLWYDD;y cyfiawn a ddaw i mewn drwyddo.

21. Diolchaf i ti am fy ngwrandoa dod yn waredigaeth i mi.

22. Y maen a wrthododd yr adeiladwyra ddaeth yn brif gonglfaen.

23. Gwaith yr ARGLWYDD yw hyn,ac y mae'n rhyfeddod yn ein golwg.

24. Dyma'r dydd y gweithredodd yr ARGLWYDD;gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.

25. Yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, achub ni;yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, rho lwyddiant.

Y Salmau 118