Y Salmau 118:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Daethant i'm hamgylchu ar bob tu;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

12. Daethant i'm hamgylchu fel gwenyn,a llosgi fel tân mewn drain;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

13. Gwthiwyd fi'n galed nes fy mod ar syrthio,ond cynorthwyodd yr ARGLWYDD fi.

14. Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,ac ef yw'r un a'm hachubodd.

15. Clywch gân gwaredigaethym mhebyll y rhai cyfiawn:“Y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus;

16. y mae deheulaw'r ARGLWYDD wedi ei chodi;y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus.”

17. Nid marw ond byw fyddaf,ac adroddaf am weithredoedd yr ARGLWYDD.

Y Salmau 118